CANLLAWIAU COSB


Gwneud Honiadau Ffug
Cam 1 – Penderfynu ar y categori trosedd
Dylech benderfynu ar y categori trosedd gan gyfeirio at y ffactorau yn y tablau isod yn unig. Er mwyn pennu'r categori, dylech asesu beiusrwydd a niwed.
​
Cam 1 – Pennu categori’r trosedd
Dylech bennu categori’r trosedd gan gyfeirio at y ffactorau yn y tablau isod yn unig. Er mwyn pennu’r categori, dylech asesu euogrwydd a niwed.
Euogrwydd
Mae lefel yr euogrwydd yn cael ei phennu drwy bwyso a mesur holl ffactorau’r digwyddiad. Lle mae nodweddion yn bodoli sy’n syrthio i wahanol lefelau o euogrwydd, dylech gydbwyso’r nodweddion hyn gan roi pwysau priodol ar y ffactorau perthnasol i gyrraedd asesiad teg o euogrwydd y sawl dan sylw.
A – Euogrwydd uchel
-
Ymddygiad soffistigedig a/neu wedi’i gynllunio ymlaen llaw
-
Dioddefwr yn agored i niwed oherwydd oedran, nodweddion personol neu amgylchiadau
-
Honiad o natur ddifrifol iawn
-
Cafodd yr honiad ei gyfeirio at aelod o staff
-
Rôl arweiniol mewn grŵp
B – Euogrwydd canolig
-
Ymddygiad yn gysylltiedig ag ymddygiad di-eiriau neu heb gysylltiad corfforol
-
Rôl lai mewn gweithgarwch grŵp
-
Mae ffactorau’n bresennol yn A ac C sy’n cydbwyso ei gilydd a/neu
-
Digwyddiad sy’n disgyn rhwng categorïau A a C
C – Euogrwydd is
-
Ymddygiad byrfyfyr/symbylol
-
Ymddygiad heb ei gynllunio ac anghymhleth
-
Nid oedd yr honiad o natur ddifrifol
-
Cymryd rhan oherwydd gorfodaeth/ymddygiad bygythiol
-
Wedi’i ysgogi
​
Cam 2- Man cychwyn ac ystod categori​​​
Niwed
Niwed 1
-
Canlyniadau difrifol i barti diniwed o ganlyniad i’r drosedd
-
Poen meddwl difrifol wedi’i achosi i barti diniwed (er enghraifft, effaith ar enw da)
Niwed 2
-
Achoswyd amheuaeth ar barti diniwed o ganlyniad i’r drosedd
-
Peth poen meddwl wedi’i achosi i barti diniwed
Niwed 3
-
Poen meddwl cyfyngedig wedi’i achosi i barti diniwed
-
Effaith gyfyngedig ar weinyddiaeth cyfiawnder
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Ar ôl nodi lefel yr euogrwydd a’r niwed, penderfynwch ar fan cychwyn o fewn yr ystod gategori uchod. Mae’r man cychwyn yn berthnasol i bob troseddwr waeth beth fo’u hamgylchiadau personol nac unrhyw achosion o waharddiad blaenorol. Mae disgresiwn gan yr ysgol i benderfynu faint o ddyddiau o waharddiad a gaiff eu cyflawni’n allanol ac yn fewnol o fewn pob categori.
​
​
Cam 3 – Ystyried ffactorau Lleddfu ac Ehangol
Gall yr ysgol ystyried unrhyw addasiad yn seiliedig ar unrhyw ffactorau lleddfu neu ehangol. Isod ceir rhestr ffeithiol (ond nid yn un gyflawn) o elfennau ychwanegol sy’n rhoi cyd-destun i’r drosedd a ffactorau’n ymwneud â’r sawl dan sylw.
Nodwch a ddylai unrhyw gyfuniad o’r rhain, neu ffactorau perthnasol eraill, arwain at addasu’r cam gweithredu disgyblu i fyny neu i lawr o’r man cychwyn.
​
Ffactorau sy’n cynyddu difrifoldeb (Ffactorau Ehangol)
-
Troseddau blaenorol, gan ystyried:
-
natur y drosedd a’i pherthnasedd i’r drosedd bresennol;
-
a’r amser a aeth heibio ers y drosedd flaenorol
-
-
Yn bresennol gerbron eraill, yn enwedig plant iau neu’r cyhoedd
-
Cymryd rôl arweiniol mewn grŵp mawr
-
Methu cydymffurfio â chosbau blaenorol gan yr ysgol
-
Y sawl dan sylw yn cynnwys eraill yn yr ymddygiad
-
Enw da’r ysgol
​​
Ffactorau sy’n lleihau difrifoldeb neu’n adlewyrchu lliniariad personol
-
Dim troseddau tebyg blaenorol, nac unrhyw droseddau perthnasol nac yn ddiweddar
-
Edifeirwch
-
Cymeriad da a/neu ymddygiad rhagorol
-
Digwyddiad ar ei ben ei hun
-
Oedran a/neu ddiffyg aeddfedrwydd
-
Anawsterau dysgu
-
Amgylchiadau teuluol
Dylid ystyried materion diogelu ar wahân ac nid ydynt o reidrwydd yn ffactorau lliniarol.
​
Cam 4 – Addasu’r man cychwyn a’r ystod gategori
Ar ôl ystyried pob ffactor ehangol a lleddfu, addaswch y man cychwyn yn ôl yr hyn sy’n fwyaf addas yn eich barn chi.

01407762219
​